Opportunities & Events
Celf Wyllt - Prosiect Ieuenctid Newydd yn Boncath
Location: Gogledd Sir Benfro | Start Date: 01/05/25
Summary:
Mae Celf Wyllt yn brosiect peilot cynhyrfus sy'n cyfuno celfyddydau creadigol, technegau reoleiddio emosiynol a chyswllt â natur er mwyn gwella iechyd meddwl a lles i bobl ifanc oed 14 - 16. Bydd y prosiect yn rhedeg hyd Fehefin 2025 ac fe'i cefnogir gan Nawdd Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles drwy.
Content:
Bydd chwe sesiwn yn digwydd ar 1, 8 15 a 22 Mai ac ar 5 a 12 Mehefin.
Yr amserau fydd 9.30am-2.30pm a bydd gweithgareddau’n digwydd ar safle yn agos i Foncath.
Rydym ni’n rhagweld gweithio gyda grŵp o ddeuddeg person ifanc oed 14-16 o’r ardal leol ac y bydd pob cyfranogwr yn dod atom drwy atgyfeirio.
Nid yw’r prosiect hwn yn benodol i’r sir, felly croesewir atgyfeiriadau o Geredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.
Y mathau o weithgareddau y byddwn yn eu cynnig i’r grŵp fydd
- Gweithgareddau celf sy’n cynnwys natur
- Rhannu a gwrando fel grŵp
- Gweithgareddau cyswllt natur
- Archwilio sut medrwn ni reoli ein hemosiynau
- Treulio amser o amgylch tân agored
- Adlewyrchu ar ein profiadau gan ddefnyddio celf a natur Caiff asesiadau risg llawn eu cynnal, darperir ffiniau clir a chynnig gwybodaeth ddiogelwch i gyfranwyr drwy gydol y rhaglen.
Cysylltu â Deri am fwy o wybodaeth: deri@smallworld.org.uk